Goroeswr ffrwydrad nwy sydd wedi dod yn arweinydd meithrinfa ysbrydoledig ac entrepreneur sydd wedi troi hobi yn fusnes clustogwaith llwyddiannus oedd ‌dau o’r enillwyr yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 neithiwr ar Fawrth 22.

Cafodd naw enillydd rhagorol o bob cwr o Gymru, mewn categorïau ar gyfer prentisiaid, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, y gwobrau nodedig wrth i sêr rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru ddisgleirio yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Caiff y gwobrau eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a'r prif noddwr EAL, y corff dyfarnu.

Taith anhygoel

Enwyd Jessica Williams yn Brentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024

Un o'r rhai a gymeradwywyd yn ystod y noson oedd Jessica Williams, sy’n 34 oed ac yn arweinydd meithrinfa ysbrydoledig yn Sêr Bach y Cwm, Ystradgynlais, a gafodd ei henwi yn Brentis Uwch y Flwyddyn.

Mae Jessica wedi brwydro yn erbyn anafiadau a newidiodd ei bywyd i greu gyrfa lwyddiannus, a hynny wedi i ffrwydrad nwy annisgwyl ddymchwel ei chartref ym Mlaendulais yn 2020.

Mae Jessica, sy'n fam i ddau o blant, yn dweud bod y digwyddiad trawmatig hwn wedi newid ei bywyd, ac mae'n diolch i'w Phrentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant gan ACT Training am ei hannog i ffynnu.

"Rydw i wedi mynd o un pegwn i'r llall, o fod yn ddifrifol wael ac yn ymladd am fy mywyd, i ddod yn arweinydd meithrinfa llwyddiannus," meddai Jessica. Mae'n anhygoel, ond mae wedi bod yn daith anodd."

Tyfu ei phrentisiaid ei hun

Mae Dr Ali J. Wright bellach yn meithrin ei phrentisiaid ei hun ar ôl trawsnewid ei hobi yn fusnes llwyddiannus

Aeth gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn i Needle Rock, busnes clustogwaith llwyddiannus a sefydlwyd gan Dr Ali J. Wright yn Llanrhystud, ger Aberystwyth yn 2013.

Mae Ali yn gyn-arolygydd iechyd planhigion yn Llywodraeth y DU, ac mae hi bellach yn meithrin ei phrentisiaid ei hun ar ôl troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes sy'n datblygu, sydd bellach yn cyflogi pedwar gweithiwr.

Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i ddarparu fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 newydd mewn Sgiliau Clustogwaith Uwch.

Mae dau brentis cyntaf Needle Rock wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu ac maent wedi dechrau Prentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes gyda Myrick Training.

Yr enillwyr eraill

Enillwyr yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024
  • Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Gwynfor Jones o Croeso i'n Coedwig, a gafodd ei hyfforddiant gan Goleg Pen-y-bont.
  • Prentis y Flwyddyn: Laura Chapman o MotoNovo Finance, a gafodd ei hyfforddiant gan ALS Training.
  • Doniau’r Dyfodol: Heledd Roberts o Wasanaethau Yswiriant FUW, a gafodd ei hyfforddiant gan ALS Training.
  • Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: TRJ Ltd, Rhydaman. Eu partneriaid gweithredu yw Coleg Sir Gâr, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Pen-y-bont.
  • Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Trafnidiaeth Cymru. Eu partneriaid gweithredu yw ALS Training a Choleg y Cymoedd.
  • Macro Gyflogwr y Flwyddyn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Eu partneriaid gweithredu yw ACT, Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a'r Fro.
  • Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn: Anne Reardon-James o Panda Education and Training, mewn partneriaeth ag ALS Training.

Effaith uchel prentisiaethau

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: "Hoffwn longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

"Mae'n bwysig arddangos eu cyflawniadau gan fod hynny'n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid."

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Hoffwn longyfarch pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r holl enillwyr.

"Mae straeon fel hyn yn dangos yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i swyddi sy’n rhoi boddhad iddynt a chyfrannu at system sgiliau Cymru.

"Byddant yn rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu."

Darganfod mwy

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ffoniwch 03000 603000 neu ymweld www.gov.wales/apprenticeships-genius-decision